Exodus 20

Y Deg Gorchymyn

(Deuteronomium 5:6-21)

1A dyma Duw yn dweud fel yma:

2“Fi ydy'r Arglwydd, eich Duw chi.
Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft,
lle roeddech chi'n gaethweision.
3Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi.
4Paid cerfio eilun i'w addoli –
dim byd sy'n edrych fel unrhyw
aderyn, anifail na physgodyn.
5Paid plygu i lawr a'u haddoli nhw.
Dw i, yr Arglwydd dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus.
Dw i'n cosbi pechodau'r rhieni sy'n fy nghasáu i,
ac mae'r canlyniadau yn gadael eu hôl ar y plant
am dair i bedair cenhedlaeth.
6Ond dw i'n dangos cariad di-droi-nôl
am fil o genedlaethau
at y rhai sy'n fy ngharu i
ac yn gwneud beth dw i'n ddweud.
7Paid camddefnyddio enw'r Arglwydd dy Dduw.
Fydda i ddim yn gadael i rywun sy'n camddefnyddio fy enw
ddianc rhag cael ei gosbi.
8Cofia gadw'r dydd Saboth yn sbesial.
Mae'n ddiwrnod cysegredig, gwahanol i'r lleill.
9Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall,
a gwneud popeth sydd angen ei wneud.
10Mae'r seithfed diwrnod i'w gadw yn Saboth i'r Arglwydd.
Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma –
ti na dy feibion a dy ferched,
dy weision na dy forynion chwaith;
dim hyd yn oed dy anifeiliaid
nag unrhyw fewnfudwr sy'n aros gyda ti.
11Mewn chwe diwrnod roedd yr Arglwydd wedi creu y bydysawd,
y ddaear, y môr a popeth sydd ynddyn nhw;
wedyn dyma fe'n gorffwys ar y seithfed diwrnod.
Dyna pam wnaeth Duw fendithio'r dydd Saboth,
a'i osod ar wahân, yn ddiwrnod wedi ei gysegru.
12Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam,
a byddi'n byw yn hir yn y wlad mae'r Arglwydd dy Dduw yn ei rhoi i ti.
13Paid llofruddio.
14Paid godinebu.
20:14 godinebu sef, person priod yn cael rhyw gyda rhywun arall

15Paid dwyn.
16Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun.
17Paid chwennych
20:17 chwennych sef, awydd cryf i gael rhywbeth
tŷ rhywun arall.
Paid chwennych ei wraig,
na'i was, na'i forwyn, na'i darw, na'i asyn,
na dim byd sydd gan rywun arall.”

Yr angen am ganolwr

(Deuteronomium 5:22-33)

18Roedd y bobl wedi dychryn o achos y mellt a'r taranau, sŵn y corn hwrdd
20:18 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
, a'r mynydd yn mygu. Roedden nhw'n crynu mewn ofn, ac eisiau cadw ddigon pell i ffwrdd.
19Dyma nhw'n dweud wrth Moses, “Siarad di gyda ni, a gwnawn ni wrando. Paid gadael i Dduw siarad â ni, neu byddwn ni'n marw.” 20Dyma Moses yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Mae Duw yn eich profi chi, ac eisiau i chi ei barchu e, i chi stopio pechu.” 21Felly dyma'r bobl yn cadw ddigon pell i ffwrdd, tra'r aeth Moses at y cwmwl trwchus lle roedd Duw.

Sgrôl yr Ymrwymiad

22Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Dywed fel hyn wrth bobl Israel: ‘Dych chi wedi gweld sut dw i wedi siarad â chi o'r nefoedd. 23Rhaid i chi beidio gwneud duwiau eraill o arian ac aur i chi'ch hunain. 24Codwch allor o bridd i mi, ac aberthu defaid, geifr a gwartheg arni – yn offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r Arglwydd. Ble bynnag fydda i'n cael fy anrhydeddu, bydda i'n dod atoch chi ac yn eich bendithio chi. 25Os codwch allor o gerrig, rhaid iddyn nhw beidio bod yn gerrig sydd wedi eu naddu. Os bydd cŷn wedi ei defnyddio arni, bydd yr allor wedi ei halogi. 26A peidiwch dringo grisiau i fynd at fy allor, rhag i'ch rhannau preifat gael eu gweld.’”

Copyright information for CYM